Description
Roedd Ellis Wynne, 1671-1734, yn reithor, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn frenhinwr ond mae’n fwy adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsg a gyhoeddwyd gyntaf ym 1703. Caiff y Bardd Cwsg ei arwain drwy dair weledigaeth lle mae’n dilyn taith pechaduriaid ar eu ffordd i uffern. Mae yma ddychymyg gwreiddiol a dychan brathog ac mae wedi ei ysgrifennu mewn iaith sy’n gwbl naturiol ac yn adlewyrchu iaith lafar Meirionnydd ar droad y 18fed ganrif. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys tri llyfr, yn ogystal â Gweledigaethau y Bardd Cwsg a olygwyd gan D. Silvan Evans mae dau gyfieithiad Saesneg, The Visions of the Sleeping Bard gan Gwyneddon Davies a The Sleeping Bard gan George Borrow. Yn ei gyflwyniad mae Gwyneddon Davies yn gresynu fod Ellis Wynne wedi defnyddio arddull a geiriau amrwd iawn ar adegau ac felly mae wedi eu hepgor! – ‘Many passages which might be considered coarse and indecorous according to modern canons of taste, have been omitted from this translation’. Cyfrol George Borrow oedd y cyfieithiad cyntaf i’w gyhoeddi, mae D. Silvan Evans yn cyfaddef ei fod yn gyfieithiad gweddol dda er fod Borrow wedi camddeall yr awdur yn llwyr mewn rhai mannau. Mae Gwyneddon Davies hefyd yn gweld camgymeriadau yng nghyfieithiad Borrow o ran idiomau a rhagymadroddion llafar er ei fod yn cyfaddef fod yr arddull yn ‘charming and racy’. Er fod Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn dangos dylanwad amlwg Los Sueños gan y Sbaenwr Francisco Gomez de Quevedo, mae Ellis Wynne wedi creu campwaith cwbl Gymreig sy’n ddealladwy ac yn ddarllenadwy dros dri chant mlynedd ers iddo’i ysgrifennu.
- Langue
- cy
- Version
- livre numérique
- Date de sortie initiale
- 12 décembre 2013
- Format ebook
- Adobe ePub
- Illustrations
- Non
Personnes impliquées
- Auteur principal
-
Ellis Wynne
- Deuxième auteur
-
Gwyneddon Davies
- Rédacteur en chef
-
Patrick J. Donovan
- Editeur principal
-
Cromen
Options de lecture
- Lisez cet ebook sur
- Ordinateur de bureau (Mac et Windows)iOS (smartphone et tablette)Android (smartphone et tablette)Lecteur électronique KoboWindows (smartphone et tablette)
Informations sur le fabricant
- Informations sur le fabricant
- Les informations du fabricant ne sont actuellement pas disponibles
Autres spécifications
- Livre d‘étude
- Non
- Longueur d’emballage
- 190 mm
- Édition
- 2nd New edition
EAN
- EAN
- 9781909696099
Sécurité des produits
- Opérateur économique responsable dans l’UE
-
Afficher les données
Vous trouverez cet article :
- Catégories
-
Poésie, anthologies et littérature
Science de la littérature
Livres
- Livre, ebook ou livre audio ?
-
Ebook
- Disponibilité
-
Disponible à l’adresse suivante
- Langue
-
Welsh
- Disponible en « Kobo Plus »
-
Disponible en « Kobo Plus »





